Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Medi 2024
Amser:
14.00 -
15.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14104
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Carolyn Thomas AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Peter Fox AS Vaughan Gething AS |
|
Tystion: |
|
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Gruffydd Owen (Cynghorydd Cyfreithiol) Lara Date (Ail Glerc) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Croesawodd yr Aelodau y Cadeirydd a Vaughan Gething AS fel Aelodau newydd o'r Pwyllgor Deisebau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd fod y cwestiynau a godir gan y deisebydd yn faterion gweithredol ynghylch darparu gwasanaethau a oedd yn fater i’r Bwrdd Iechyd ymateb iddynt yn uniongyrchol. Yn sgil hyn cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn am:
ragor o wybodaeth am y galw presennol a'r disgwyl am wasanaethau menopos arbenigol a ddarperir drwy leoliadau gofal eilaidd, a phryd a sut y mae’n bwriadu darparu hyn, wyneb yn wyneb ac o bell;
rhagor o wybodaeth am ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac unrhyw faterion o ran staffio'r ddarpariaeth honno; a
sut y caiff adborth ei gasglu ar ansawdd profiadau menywod o ran gwasanaethau menopos yng Ngogledd Cymru - beth yw lefel yr adborth a geir - os yw'n isel ar hyn o bryd beth yw eu cynlluniau i fynd i'r afael â hynny, ac a oes cynlluniau i newid y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol ar sail hynny.
Nododd y Pwyllgor hefyd fod mater ehangach o gysondeb gwasanaethau menopos ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ond roedd hyn yn rhywbeth y dylid ei gynnwys yng Nghynllun Iechyd Menywod GIG Cymru y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024. Yn y lle cyntaf, cylch gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd craffu ar y cynllun hwnnw, felly cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y mater.
Yn ogystal â'r camau y cytunwyd arnynt, nododd y Cadeirydd y byddai hefyd yn siarad mewn dadl Aelodau ar ofal iechyd menywod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 2 Hydref lle byddai'n tynnu sylw at y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd yn y lle cyntaf i ysgrifennu'n uniongyrchol at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch manylion y cynllun peilot sgrinio canser yr ysgyfaint, i gadarnhau pryd y daw’r cynllun i ben, pryd y disgwylir i'r gwerthusiad llawn o'r cynllun ddod i ben, ac a yw’n cynllunio unrhyw werthusiad interim i fwrw ymlaen ag unrhyw bwyntiau dysgu yn y cyfamser ac, os felly, pryd y bydd hynny'n digwydd.
Cytunwyd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei cheisio gyda'r bwriad o ofyn am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymhen 12 mis, i ofyn pa mor fuan y mae'n gobeithio cyflwyno rhaglen sgrinio os ystyrir bod y cynllun peilot yn llwyddiannus. Roedd yr aelodau hefyd am gael rhagor o wybodaeth am gamau gweithredu tymor byrrach eraill a gaiff eu cymryd ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â llygredd aer.
Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb fel y Pwyllgor Arweiniol ar gyfer craffu ar y cynlluniau hyn.
Datganodd Vaughan Gething AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
"Rwy'n credu y byddai'n synhwyrol pe na bawn yn cymryd rhan wrth geisio arwain y pwyllgor y naill ffordd neu'r llall, oherwydd byddaf yn parhau i roi tystiolaeth i amrywiaeth o fodiwlau o ymchwiliad COVID y DU, ac rwy'n credu ei bod yn anochel, os bydd pwyllgor diben arbennig COVID y Senedd yn dymuno archwilio materion, y byddaf yn rhoi tystiolaeth i hynny. Felly, er mwyn rhoi hynny ar gofnod, a gwneud yn glir na fyddaf yn ceisio dylanwadu ar y pwyllgor y naill ffordd na'r llall o ran y camau posib."
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am ymateb i ymholiadau pellach y deisebydd, a chael diweddariad ar dreialon GIG Cymru ynghylch effeithiolrwydd hidlo aer HEPA.
Cytunodd yr Aelodau hefyd i anfon copi at gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 y Senedd, er gwybodaeth ac er mwyn gofyn i’r materion gael eu hystyried fel rhan o’i gynllun gwaith i fynd ar drywydd unrhyw fylchau yng ngwaith Ymchwiliad Covid-19 y DU. Cytunodd yr aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor tra'n disgwyl ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd â barn y deisebydd ei hun bod digwyddiadau wedi mynd yn drech na hi. Yng ngoleuni'r canllawiau newydd a bod awdurdodau lleol bellach yn asesu'r newidiadau a gynigir yn eu hardaloedd lleol, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Trafododd yr Aelodau y ddeiseb a chytunwyd ei bod yn anarferol i'r Pwyllgor barhau i ysgrifennu yn ôl a blaen at y Bwrdd Iechyd am 18 mis a pheidio â dod i ganlyniad.
Mynegodd yr Aelodau eu rhwystredigaeth ar ran y deisebwyr a chytunwyd er mwyn cael rhywfaint o ymatebion wedi'u targedu ar gyfer y deisebydd y byddai’n ysgrifennu eto at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y Pwyllgor fod angen gonestrwydd ac eglurder ynghylch a yw'n bosibl i'r Bwrdd Iechyd ddarparu'r gwasanaeth ai peidio, yng ngoleuni'r materion parhaus yn ymwneud â recriwtio a chadw.
Cytunodd yr Aelodau i ofyn sut roedd y gwasanaeth yn arfer cael ei ddarparu, a lle caiff ei ddarparu ar hyn o bryd. Nodwyd bod model diogel a chynaliadwy o ofal o ansawdd yn well na gofal lleol gwael.
Cytunodd Cadeirydd y Pwyllgor i ofyn a fyddai gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiddordeb mewn cydlofnodi'r llythyr i'r Bwrdd Iechyd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd nad oes rhagor y gall ei wneud i fynd â’r mater ymhellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebydd.
Yn ogystal â chau'r ddeiseb nododd yr Aelodau y gallai'r deisebydd ysgrifennu at Gyngor Sir Caerdydd ynglŷn â'r mater os yw’n dymuno, neu efallai y byddai am agor deiseb newydd yn ddiweddarach pe bai cynllun codi tâl ar y ffyrdd yn cael ei gyflwyno.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodi fod gohebiaeth y Cyngor yn ei gwneud yn glir bod hon yn broses gymhleth, na chaiff ei chwblhau am o leiaf flwyddyn arall. Roedd yr Aelodau'n fodlon â'r bwriadau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol, a bod popeth yn cael ei wneud i flaenoriaethu'r gwaith hwn.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr awdurdod lleol i holi am ddiweddariad pellach a chadw golwg ar y mater. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau, hefyd, i ysgrifennu at Aelodau lleol o’r Senedd er mwyn dwyn y mater i’w sylw.
Nododd yr Aelodau y straen y mae ofn llifogydd yn ei greu, ac roeddent felly am ysgrifennu yn ôl at y deisebydd i bwysleisio fod y mater yn cael ei gymryd o ddifri, ac y byddant yn cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau.
Nododd yr Aelodau y straen y mae ofn llifogydd yn ei greu, ac roeddent felly am ysgrifennu yn ôl at y deisebydd i bwysleisio fod y mater yn cael ei gymryd o ddifri, ac y byddant yn cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi darparu ymateb cynhwysfawr i gwestiynau ychwanegol y deisebwyr, ond mae'n amlwg bod gwahaniaeth barn gyda'r deisebydd ynghylch y dull polisi yng Nghymru.
Nododd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i fynd â'r mater yn ei flaen, fodd bynnag, cyn cau'r ddeiseb, dylid anfon ymateb diweddar y deisebydd at Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, gan ei fod yn galw am wneud asesiad pellach o fanteision posibl rhyddhad wedi'i dargedu. Gofynnir hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet pryd y mae adolygiad pellach o effaith Treth Trafodiadau Tir wedi’i gynllunio.
Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad.
Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer gweddill tymor yr hydref. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd i drafodaeth ar flaenoriaethau strategol i’r dyfodol gyda chadeirydd ac aelodaeth newydd.
Cytunodd y Pwyllgor i ystyried papur cwmpasu mewn cyfarfod yn y dyfodol ar waith pellach ar y ddeiseb 'Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag eithriadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)'.